Cymraeg

Yn gweithio dros newid gyda phobl ag anableddau dysgu a phobl awtistig sydd mewn perygl o gael eu heithrio’n hirdymor o’u cymunedau.

Pwy ydyn ni?

Rydyn ni’n gynghrair o unigolion a sefydliadau yng Nghymru sydd â thri nod:

Dod â phobl yn ôl adref o leoliadau hirdymor mewn ysbytai a sefydliadau eraill.

Gwella gwasanaethau lleol i atal pobl rhag cael eu hanfon i ffwrdd yn y lle cyntaf.

Hyrwyddo hawl pobl i ddewis a chael rheolaeth dros eu bywyd, llety a chymorth.

Mae ein sgiliau a’n harbenigedd yn cynnwys tai, eiriolaeth, iechyd, gofal cymdeithasol, comisiynu, cyflawni, a phrofiad bywyd.

Pam mae’r gwaith hwn mor bwysig?

  • Nodwyd y problemau gyda chadw pobl ag anableddau dysgu mewn ysbytai am gyfnod hir mor bell yn ôl â’r 1970au.
  • Mae rhoi oedolion agored i niwed mewn ysbytai a chartrefi gofal am flynyddoedd lawer, ymhell o’u teuluoedd a’u cymunedau, fel arfer yn cael effaith andwyol arnyn nhw, a’u teuluoedd.
  • Mae sawl sgandal, yn rheolaidd, wedi dangos bod pobl sy’n byw yn y lleoedd hyn mewn perygl o gael eu cam-drin a’u hesgeuluso.
  • Mae teuluoedd wedi disgrifio eu meibion a’u merched fel rhai sydd wedi cael eu bywydau wedi’u dwyn.
  • Mae’r gost gyffredinol yn llawer uwch na chost darparu gwasanaethau lleol da.

Beth am yr heriau?

  • Gall pobl syrthio rhwng systemau a does dim trosglwyddiad di-dor rhwng gwasanaethau.
  • Mae angen llawer mwy o gynllunio a chyllido cydgysylltiedig arnon ni ar draws meysydd fel addysg, iechyd, gofal a thai.
  • Dyw’r seilwaith cymunedol lleol ddim yn gyson ledled Cymru ac mae angen cytuno arno a’i ailfywiogi.

Ond mae yna lawer o ewyllys da ac ymrwymiad hefyd.

Gallwn sortio hyn yng Nghymru

Mae gan Gymru hanes da o gefnogi pobl ag anableddau dysgu i fwynhau bywydau da yn eu cymunedau lleol.

  • O’r 1980au ymlaen, fe wnaethon ni arloesi’r gwaith o ddisodli ysbytai â seilweithiau cymunedol lleol:
    • Timau amlddisgyblaethol – wedi’u cydlynu o amgylch cynlluniau unigol.
    • Cymorth i deuluoedd – gan gynnwys seibiannau.
    • Gofal a chymorth sy’n canolbwyntio ar y person:
      • Am fywyd cartref da.
      • Am weithgareddau gwerthfawr yn ystod y dydd.
    • Mynediad at dai yn lleol, gan gynnwys eiddo wedi’u haddasu’n arbenigol lle bo angen.
    • Gwasanaethau ymyrraeth frys.
    • Gweithlu sydd â sgiliau cefnogi ymddygiad cadarnhaol ac ymwybyddiaeth o awtistiaeth.
    • Darparwyr dielw sydd wedi’u lleoli yng Nghymru.
  • Mae gennym straeon llwyddiant ledled Cymru sy’n dangos enghreifftiau o sut i ddod â phobl adref, a’u hatal rhag cael eu hanfon i ffwrdd.
  • Mae angen inni gydweithio ar draws sectorau ac ar hyd a lled Cymru i wario’r arian sydd gennym ar y pethau cywir.

Gyda’n gilydd, gallwn wneud hyn!