Maniffesto Senedd

Rydym ni’n gynghrair o unigolion a sefydliadau sy’n gweithio dros Gymru lle mae pobl ag anableddau dysgu a phobl awtistig yn mwynhau hawliau dynol llawn a lle nad ydynt yn cael eu hanfon i ffwrdd – na’u cadw i ffwrdd – oddi wrth eu teuluoedd a’u cymunedau.

Dyma ein gobaith ar gyfer y dyfodol.

Ond mae angen i bethau newid yn gyntaf.


Gofyn 1: Yn agos i gartref

Dod â phobl yn ôl i ble maen nhw’n teimlo’n ddiogel, yn teimlo croeso ac yn teimlo’n annibynnol – a’u hatal rhag cael eu hanfon i ffwrdd.

Darparu’r arweinyddiaeth a gwneud y newidiadau sydd eu hangen i ddod â phobl yn ôl i’w cymunedau, ac allan o leoliadau anghysbell ac anniogel – a chreu’r dulliau ataliol a fydd yn atal hyn rhag digwydd yn y lle cyntaf.


Gofyn 2: Seilwaith

Datblygu’r seilwaith rydym ni ei angen.

Datblygu, cynllunio a darparu seilwaith, cymunedau a thai fel y gall pobl fyw mewn lle lleol y gallant deimlo croeso, teimlo’n ddiogel a theimlo’n gartrefol.


Ask 3: Ariannu

Cyfuno cyllid ar gyfer adnodd pwrpasol i’w wneud.

Mae angen cyllid cyfunol sy’n dod â’r cymysgedd cymhleth o arian a grantiau at ei gilydd, ac yn torri trwy anghydfodau a biwrocratiaeth.


Pam mae’r gwaith
hwn yn bwysig?

  • Nodwyd y problemau gyda sefydliadoli arholiad hir i bobl ag anableddau dysgu mor bell yn ôl â’r 1970au.
  • Mae rhoi pobl ag anableddau dysgu a phobl awtistig mewn ysbytai a chartrefi gofal am flynyddoedd, ymhell i ffwrdd oddi wrth eu teuluoedd a’u cymunedau, fel arfer yn cael effaith niweidiol arnyn nhw, a’u teuluoedd.
  • Mae sgandalau rheolaidd wedi dangos bod pobl sy’n byw yn y lleoedd hyn mewn mwy o berygl o gam-drin ac esgeulustod.
  • Mae teuluoedd wedi disgrifio eu meibion a’u merched fel pobl â’u bywydau wedi cael eu dwyn.
  • Mae’r gost gyffredinol yn llawer uwch na’r gost o ddarparu gwasanaethau lleol da.

Rhai ffeithiau allweddol

  • Mae gormod o bobl ar hyn o bryd mewn ysbytai arhosiad hir neu sefydliadau preswyl mawr.
  • Mae hynny’n costio ffortiwn bob blwyddyn.
  • Mae hwn yn arian y gellid ei wario ar ddarparu gwasanaethau lleol da i gefnogi unigolion a theuluoedd.

Beth am yr heriau?

  • Gall pobl syrthio rhwng systemau ac nid oes pontio di-dor trwy wasanaethau, ac nid yw pobl ag anableddau dysgu a phobl awtistig, yn ogystal â’u teuluoedd, yn teimlo fel bod eu lleisiau yn cael eu clywed.
  • Mae angen llawer mwy o gynllunio a chyllid cyfunol, yn enwedig ar draws iechyd, gofal a thai.
  • Nid yw’r patrwm o wasanaethau cymunedol lleol sydd eu hangen ar bobl yn gyson ledled Cymru ac mae angen cytuno arnynt a’u hadfywio.

Gallwn ni sortio hyn yng Nghymru

  • Mae Cymru wedi gwneud hyn o’r blaen, ar ôl sgandal Ysbyty Trelái – a gallwn wneud hynny eto.
  • Sylfaen y record honno oedd degawdau o gydweithrediad agos rhwng iechyd a gofal cymdeithasol – rhywbeth sydd wedi llithro ac mae angen ei adfer.